WESP 13

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg - y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi Darpariaeth Addysg Gymraeg |

Welsh in Education Strategic Plans - the legislative framework that supports Welsh-Medium Education Provision

Ymateb gan  Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)  | Response from  Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

 

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg – Sylwadau Ysgrifenedig UCAC ar gyfer Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd.

 

·         Ym mis Rhagfyr 2015, cyhoeddodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Bedwaredd Senedd argymhellion yn ei adroddiad ar ‘Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg’. A yw’r fframwaith statudol presennol ar gyfer Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi gwella ers hynny?

 

Mae UCAC yn glir o’r farn fod y fframwaith statudol presennol wedi gwella’n sylweddol ers Rhagfyr 2015, yn enwedig wedi’r Adolygiad brys o Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg 2017-20.

 

Bu i’r mwyafrif o’r awdurdodau lleol lwyddo i gyflwyno cynlluniau strategol drafft oedd yn mynd i’r afael â’r anghenion ac yn amlwg yn cynllunio er mwyn cyflawni targedau uchelgeisiol. Yn amlwg, nid pob awdurdod lwyddodd i wneud hynny yn eu drafftiau, ond tybiwn fod y gweithdrefnau llywodraethol perthnasol am sicrhau cydymffurfiaeth.

 

Mater arall, wrth gwrs, ydyw os yw’r gwelliannau am sicrhau uchelgeisiau a dyheadau llywodraethol o ran y Gymraeg.

 

·         I ba raddau y mae’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y canlyniadau a’r targedau a nodir yn Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg – Cymraeg 2050;

 

Mae’r gyfundrefn addysg, wrth gwrs, yn allweddol ar gyfer  llwyddiant Strategaeth Llywodraeth Cymru - Cymraeg 2050.

 

Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos y bydd y targedau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn cyfrannu i sicrhau bod y canlyniadau a thargedau a nodir yn Cymraeg 2050 yn cael eu gwireddu.

 

Fodd bynnag, gan mai cynlluniau yn unig sydd i law, anodd yw dweud pa mor llwyddiannus fydd y Cynlluniau Strategol yn hyn o beth. Mawr obeithiwn y bydd monitro cyson yn sicrhau’r cyfraniad.

 

Ymhellach, mae pryderon gan UCAC yn hyn o beth gan nad yw’r holl gyfundrefn yn ei le i sicrhau llwyddiant, ee Prinder athrawon addas, Categorïau iaith ysgolion a symud ysgolion ar hyd continwwm ieithyddol, a’r sector cyfrwng Saesneg a chymwysterau Cymraeg. Mawr obeithiwn y bydd y Bil Addysg Gymraeg yn mynd i’r afael â rhai o’r pryderon hyn.

 

·    Sut mae awdurdodau lleol yn ymateb i newidiadau i ganllawiau ar gategorïau ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg, ac a ydynt yn bodloni uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwy ffrwd?

 

Nid oes gwybodaeth bendant gennym ar y sefyllfa’n benodol, ond mae’n ymddangos nad oes ryw lawer yn digwydd yn gyffredinol ar hyn o bryd, er bod ambell i enghraifft benodol sydd yn dangos bod symud o le i le. Efallai mai mater o amser yw hi, yn enwedig gan mai prin yw’r amser mae’r awdurdodau wedi eu derbyn i ymateb.

 

Mae UCAC yn nodi bod y newidiadau i ganllawiau ar gategorïau ysgolion yn ôl darpariaeth cyfrwng Cymraeg wedi ei wneud yn haws i nifer o awdurdodau ail glustnodi ysgolion dwyieithog yn ysgolion Cyfrwng Cymraeg heb fod angen unrhyw newid i’w darpariaeth. Mae UCAC o’r farn bod hyn yn andwyol i sefyllfa’r Gymraeg mewn addysg.

 

Ymhellach, nid yw rhoi % o holl weithgareddau ysgol fel gofyn o reidrwydd am sicrhau bod cynnydd yn y ddarpariaeth na bod cynnydd o ran gallu’r disgyblion yn y Gymraeg.

 

Yn gyffredinol, prin yw’r dystiolaeth bod ysgolion yn symud ar hyd y continwwm iaith ar hyn o bryd, yn enwedig o gategori 1 i 2. Er tegwch, mae rhai awdurdodau yn amlwg yn cynllunio’n fanwl yn hyn o beth.

 

Mae uchelgais y Llywodraeth o ran cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg a dwy ffrwd yn amlwg - ond nid yw’r disgwyliadau na’r canllawiau’n glir. Nid yw UCAC yn ymwybodol o unrhyw ysgol cyfrwng Saesneg lle mae cynnydd wedi bod yn y ddarpariaeth, hyd yn hyn.

 

Eto, edrychwn ymlaen at weld sut y bydd y Bil Addysg Gymraeg yn cynnig y mecanwaith a’r fframwaith statudol ar gyfer cynyddu’r ddarpariaeth.

 

·    Pa heriau a fydd yn codi o ran cynllunio a datblygu darpariaeth cyfrwng Cymraeg, cyn Bil Addysg Gymraeg arfaethedig?

 

Rydym wedi amlinellu uchod rhai o’r heriau sydd yn ein hwynebu wrth ystyried Bil Addysg Cymraeg, ond mae UCAC o’r farn bod angen rhoi sylw penodol, brys, i’r isod yn ogystal.

 

Mae’r Llywodraeth yn cynllunio ac yn dechrau gweithredu er mwyn sicrhau bod digon o arbenigedd yn y gweithlu i sicrhau bod digon o athrawon y Gymraeg ac athrawon sydd yn gallu addysgu pynciau drwy’r Gymraeg. Fodd bynnag, anodd yw gweld sut bydd modd diwallu’r holl anghenion fel mae’n sefyll ar hyn o bryd ac mae angen gwir ystyried sut i ddenu mwy i’r proffesiwn.

 

Mae pryder penodol gan UCAC am allu’r gweithlu i fedru sicrhau cyfraniad y sector cyfrwng Saesneg tuag at amcanion a thargedau Cymraeg 2050. Mae’n amlwg bod angen ystyriaeth brys i hyn, er gwaetha’r ffaith y gall fod yn wleidyddol sensitif.

 

Mae UCAC o’r farn bod angen parhau i roi sylw ar ddatblygu arweinwyr ysgolion a sicrhau fod modd denu i rolau arweinyddol o fewn ysgolion.

 

Mae’n allweddol bod darpariaeth a chymwysterau yn adlewyrchu anghenion y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ac nad yw'r rheiny sydd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, ym mhob rhan o’r wlad, dan unrhyw anfantais o ran ehangder darpariaeth a chyfleoedd o gymharu ag eraill. Mae UCAC ac eraill yn gweithio i sicrhau mai dyna fydd y sefyllfa wrth i ni drafod y cymwysterau newydd arfaethedig. Mae angen sylw penodol i’r ddarpariaeth ôl 16, yn enwedig o ran cymwysterau galwedigaethol yn hyn o beth.

 

Er bod ambell i awdurdod yn rhoi sylw dwys i addysg drochi ar hyn o bryd, mae angen sicrhau bod strategaeth a chynllunio cenedlaethol yn digwydd er mwyn cefnogi awdurdodau, yn enwedig yn y cymunedau hynny sydd yn Gymraeg eu hiaith.

 

Mae’n allweddol bod buddsoddiad cyllidol sylweddol a chynllunio gofalus yn digwydd er mwyn sicrhau llwyddiant. Mae angen ystyried natur y cyllido hwnnw.

 

Awst 2022